Pecyn Cymorth Mathemateg i'r Teulu
Elfen graidd o'r Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd yw annog teuluoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau mathemateg gartref. Mae National Numeracy wedi dylunio cyfres o weithgareddau ar gyfer y Pecyn Cymorth Mathemateg i'r Teulu sy'n addas i ddisgyblion Derbyn hyd at Flwyddyn 6.
Gwybodaeth allweddol
Lawrlwythwch wybodaeth allweddol am adnoddau'r Pecyn Cymorth Mathemateg i'r Teulu, gan gynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- Gweithgareddau
- Llyfrau lloffion
- Cael teuluoedd i gymryd rhan
- Marcio ac adborth
- Adrodd i National Numeracy
- Rhwystrau i gyfranogiad
Gallwch hefyd lawrlwytho tystysgrif cyfranogiad i blant.
Gweithgareddau
Pecyn Cymorth Mathemateg i'r Teulu
Mae Pecyn Cymorth Mathemateg i'r Teulu National Numeracy yn llawn syniadau a gweithgareddau am ddim i helpu teuluoedd i fwynhau mathemateg gyda'i gilydd.
Mae'r gweithgareddau'n heriau byr, hwyliog i deuluoedd a phlant oedran cynradd eu gwneud gyda'i gilydd i ddatrys problemau mathemateg bob dydd, ac mae pob un ohonynt yn gysylltiedig â phethau gartref, digwyddiadau yn yr ysgol, neu'r calendr diwylliannol.