Cyflwyno'r National Numeracy Challenge
Mae'r National Numeracy Challenge yn offeryn dysgu ar-lein rhad ac am ddim sydd wedi'i gynllunio i helpu oedolion i wella eu sgiliau mathemateg bob-dydd mewn camau hwylus, gan fagu eu hyder yn eu sgiliau rhifedd yr un pryd.
Mae'r National Numeracy Challenge yn seiliedig ar fathemateg y byd go iawn – gartref, yn y gwaith, neu wrth gefnogi plant. Mae'n rhad ac am ddim i'r defnyddiwr, gellir ei ddefnyddio ar unrhyw ddyfais, gan gynnwys ffonau symudol, a gellir ei osod ar ffurf ap.
Posteri ar gyfer staff a rhieni/gofalwyr
Rydym wedi llunio posteri i annog staff ysgolion a rhieni/gofalwyr i gofrestru a defnyddio’r National Numeracy Challenge i wella eu sgiliau rhifedd bob-dydd a’u hyder eu hunain, gan ddefnyddio cod QR i gael mynediad i’r wefan.
Gallech arddangos y posteri staff yn ystafell y staff ac ar fewnrwyd y staff, a’r poster i rieni ym mynedfa’r ysgol, mewn cylchlythyrau, ac ar wefan yr ysgol.
Fideo: Beth yw'r National Numeracy Challenge a sut y gall eich helpu?
Rhannwch y fideo byr hwn â staff, rhieni a gofalwyr i esbonio'r National Numeracy Challenge.