Skip to main content

View this page in English | Gweld y tudalen hon yn Saesneg

Cystadleuaeth Arwyr Rhifau

Mae'r gystadleuaeth Arwyr Rhifau yn ei hôl! Ac eleni rydym yn gofyn: Sut y mae pobl yn defnyddio rhifau yn eich cymdogaeth, eich clwb neu eich cymuned?

Mae'r gystadleuaeth yn agored!

Llwytho i lawr taflen gyflwyno

Cyflwynwch eich ceisiadau

Gwobrau

Mae chwe chategori a bydd un enillydd ymhob categori yn ennill:

  • Pecyn gwobrau Arwyr Rhifau. Bydd hwn yn mynd i feithrinfa, ysgol neu grŵp cymunedol/ieuenctid o ddewis yr enillydd. Bydd pob pecyn gwobrau’n cynnwys yr holl gemau, llyfrau ac adnoddau byddi di eu hangen i wneud i bawb yn dy gymuned deimlo fel Arwr Rhifau!
  • Taleb anrheg gwerth £50 a thystysgrif i’r plentyn a greodd y cais a enillodd.

Bydd y tri a ddaeth yn ail ym mhob categori’n ennill:

  • Taleb anrheg gwerth £20 a thystysgrif i’r plentyn a greodd y cais.

Y categorïau ar gyfer cymryd rhan yw:

  • Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar:​ Yn agored i bob plentyn 3-5
  • Cynradd A:​ Cymru/Lloegr Bl1, Bl2​ | Iwerddon Bl2, Bl3​ | Yr Alban P2, P3
  • Cynradd B:​ Cymru/Lloegr Bl3, Bl4​ | Iwerddon Bl4, Bl5​ | Yr Alban P4, P5
  • Cynradd C:​ Cymru/Lloegr Bl5, Bl6​ | Iwerddon Bl6, Bl7 | Yr Alban P6, P7
  • Secondary A:​ Cymru/Lloegr Bl7, Bl8​ | Iwerddon Bl8, Bl9​ | Yr Alban S1, S2
  • AAAA (SEND)/CAIG (EHCP) Yn agored i bob plentyn sy’n derbyn cymorth AAA neu CAIG (cynllun addysg, iechyd a gofal). Mae croeso i bob plentyn gystadlu yn ei gategori oedran perthnasol, ond gall y rhai sy’n derbyn cymorth AAA neu CAIG ddewis i gystadlu o dan y categori hwn yn lle hynny. Mae’r pecyn gwobrau ar gyfer y categori AAAA/CAIG yn addas i amrywiaeth o oedrannau a lefelau, ac mae’n cynnwys taleb i’r derbynnydd ei defnyddio ar adnoddau o’i ddewis.

Meini prawf ennill

Bydd Bobby Seagull yn dewis y cais sy’n ennill yn seiliedig ar:

  1. Y llun mwyaf dychmygus, yn dangos ymdrech glew
  2. Y defnyddiau mwyaf creadigol o rifau
Llysgennad Rhifedd Cenedlaethol a dyfarnwr y gystadleuaeth, Bobby Seagull

Sut i gymryd rhan

  1. Llwytha i lawr daflen y Gystadleuaeth Arwyr Rhifau neu cymera ddarn o bapur, a darllena’r Amodau a’r Telerau
  2. Crëwch lun yn dangos ac yn dweud wrthym sut y mae pobl yn defnyddio rhifau yn eich cymdogaeth, eich clwb neu eich cymuned.
  3. Paid ag anghofio ychwanegu dy enw cyntaf, llythyren gyntaf dy enw olaf a dy oed
  4. Gofynna i oedolyn i lwytho dy lun di i fyny drwy ein ffurflen ar-lein, cyn 23:59 ar 10 Mehefin 2026
  5. Os byddi di’n ennill, byddwn ni’n cysylltu â dy oedolyn di cyn 7 Gorffennaf 2026