Skip to main content

Gweithdy 'Helpu Eich Plentyn i Fwynhau Mathemateg!'

Gofynnir i bob ysgol gyflwyno o leiaf un gweithdy 'Helpu Eich Plentyn i Fwynhau Mathemateg!' i rieni a gofalwyr.

Gweithdy agweddau 1 awr o hyd yw hwn i rieni/ofalwyr sy'n edrych ar awgrymiadau defnyddiol National Numeracy ar gyfer cefnogi plant i deimlo'n gadarnhaol ynghylch mathemateg.

Gallwch ddod o hyd i'r holl ddeunyddiau y mae arnoch eu hangen i gyflwyno'r gweithdy yma.

Sleidiau'r cyflwyniad

Lawrlwythwch y cyflwyniad i'w ddefnyddio yng ngweithdy eich ysgol. Byddwch yn gweld fideos a dolenni wedi'u hymgorffori yn y sleidiau.

Presentation cover image

Cynllun y gweithdy

Defnyddiwch y cynllun hwn o'r gweithdy i'ch tywys trwy sleidiau'r cyflwyniad. Mae'r holl ddolenni wedi'u hymgorffori yn y ddogfen.

Workshop plan thumbnail

Cyfathrebu

Rydym wedi ysgrifennu rhai templedi negeseuon i'ch helpu i hyrwyddo'r gweithdy 'Helpu Eich Plentyn i Fwynhau Mathemateg!' i rieni a gofalwyr, gan gynnwys llythyr adref, poster, erthygl ar gyfer cylchlythyr a negeseuon testun. Lawrlwythwch y templedi ac ychwanegwch fanylion eich gweithdy. 

Templedi negeseuon

Poster

Rydym hefyd wedi casglu ynghyd awgrymiadau defnyddiol i annog rhieni a gofalwyr i fynychu, a’r rheiny wedi’u coladu o ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen yn y gorffennol.

Taflen awgrymiadau

Poster and templates thumbnail

Awgrymiadau defnyddiol i rieni a gofalwyr

Defnyddiwch y fideo hwn a'r taflenni gwybodaeth hyn i rannu awgrymiadau defnyddiol National Numeracy ar gyfer cefnogi plant i feithrin agweddau cadarnhaol tuag at fathemateg.

Mae modd gweld yr isdeitlau yn y fideo hefyd yn yr ieithoedd Cymraeg, Wrdw, Rwmaneg, Pwnjabeg, Pwyleg ac Arabeg.

Tynnu sylw at fathemateg yn y byd go iawn

Siarad yn gadarnhaol am fathemateg

Gwella eich hyder eich hun yn eich sgiliau rhifedd