Skip to main content

News

Grant newydd yn ehangu'r rhaglen Ysgolion a Theuluoedd ledled Cymru

12 Jun 2025

View this page in English | Gweld y tudalen hon yn Saesneg

Mae Rhifedd Cenedlaethol yn falch o dderbyn grant gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi rhifedd ymhellach ledled y genedl.

gwirfoddolwr

Heddiw, mae Rhifedd Cenedlaethol yn cyhoeddi grant newydd cyffrous gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn gweld ei rhaglen arloesol Ysgolion a Theuluoedd yn cael ei gweithredu mewn hyd at 90 o ysgolion ledled Cymru. 

Adeiladu cymunedau ysgolion sy'n hyderus o ran rhifau yng Nghymru

Yn rhan o raglen cymorth grant Cwricwlwm i Gymru, bydd y wobr yn galluogi Rhifedd Cenedlaethol i helpu adeiladu cymunedau ysgol sy'n hyderus o ran rhifau a sefydlu dulliau a strategaethau parhaol a fydd yn parhau mewn ysgolion y tu hwnt i ddiwedd y cyllid ym mis Mawrth 2028.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru

Bydd pob ysgol yn cael ei chefnogi am ddwy flynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd y rhaglen yn helpu disgyblion ysgol yn ogystal â'r oedolion sy'n eu cefnogi.

Annog agwedd gadarnhaol tuag at fathemateg ymhlith oedolion yn ogystal â phlant

Yn Rhifedd Cenedlaethol, rydym yn gwybod bod yr oedolion sy'n eu cefnogi gartref ac yn yr ysgol ymhlith y ffactorau cryfaf sy'n effeithio ar agweddau plant tuag at rifedd. Oedolion sy'n hyderus o ran rhifau yw'r lifer mwyaf pwerus tuag at genhedlaeth nesaf sy'n fwy hyderus o ran rhifau. 

Felly, bydd y rhaglen yn mabwysiadu dull rhyngweithiol er mwyn ymgysylltu’n wirioneddol â’i buddiolwyr, gyda staff yr ysgol yn derbyn hyfforddiant Hyrwyddwyr Rhifedd achrededig DPP. 

Mae Hyrwyddwyr Rhifedd yn wirfoddolwyr sy'n cefnogi ac yn arwain eraill yn eu cymunedau i wella eu hyder mewn rhifau.

Bydd gan staff yr ysgol fynediad hefyd i'r sesiwn ddwy awr, Teimlo'n Well am Fathemateg. Mae'r sesiwn ryngweithiol, ar-lein yn canolbwyntio ar wella hyder ac agweddau oedolion tuag at fathemateg.

Arddangos gwerth mathemateg yn y byd go iawn

Yn ogystal, yn dibynnu ar argaeledd, mae posibilrwydd o ysgolion gael ymweliadau gan wirfoddolwyr corfforaethol (a ariennir ar wahân gan bartneriaid corfforaethol) i gyflwyno gwasanaethau Fy Stori Fathemateg a sesiynau dosbarth Mathemateg yn y Byd Go Iawn, gan arddangos i ddisgyblion werth mathemateg ym mywyd bob dydd.

Bydd ysgolion hefyd yn cymryd rhan yn ein hymgyrchoedd cyffrous, cenedlaethol, Diwrnod Rhifedd Cenedlaethol ac Wythnos Hyder Rhifau, a bydd mynediad i weminarau dan arweiniad arbenigwyr ar bynciau fel pryder mathemateg, dyscalcwlia ac addysg ariannol.

Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, am raglen gymorth grant Cwricwlwm i Gymru:

“Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr mewn cefnogaeth o ansawdd uchel, sy’n gyson yn genedlaethol ar gyfer ein holl ysgolion. Rwy'n sicrhau bod gweithwyr proffesiynol addysgu ledled Cymru yn gallu cael mynediad at yr arbenigedd, y cyngor a'r dysgu proffesiynol sydd eu hangen arnynt. 

“Bydd gan bob rhan o Gymru fynediad at arbenigedd i ddarparu addysg fathemateg gyd-gysylltiedig rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd; gan roi mynediad i bob ysgol at ddysgu proffesiynol ac adnoddau a chefnogaeth i helpu ysgolion i hybu hyder rhieni, gofalwyr a staff.”

Dywedodd Beth Barnes, Rheolwr Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd Rhifedd Cenedlaethol: 

"Rydym wrth ein bodd yn dod â'n rhaglen Ysgolion a Theuluoedd i hyd yn oed mwy o gymunedau ledled Cymru. Mae'r grant hwn yn gyfle gwych i gefnogi plant a'u teuluoedd i feithrin mwy o hyder gyda rhifau gyda'i gilydd – gan helpu i osod y sylfeini ar gyfer dyfodol mwy disglair."

Os hoffai’ch ysgol gynradd wybod mwy am y rhaglen Ysgolion a Theuluoedd Rhifedd Cenedlaethol yng Nghymru, cliciwch yma

Os hoffai’ch sefydliad ganfod mwy am weithio gyda Rhifedd Cenedlaethol neu ein rhaglen Hyrwyddwyr Rhifedd sydd wedi'i hachredu gan DPP, e-bostiwch programmes@nationalnumeracy.org.uk