Skip to main content

View this page in English | Gweld y tudalen hon yn Saesneg

Cystadleuaeth Arwyr Rhifau

Mae'r gystadleuaeth Arwyr Rhifau yn ei hôl! Ac eleni rydym yn gofyn: Sut y mae pobl yn defnyddio rhifau yn eich cymdogaeth, eich clwb neu eich cymuned?

Mae'r gystadleuaeth yn agored! Cofrestrwch am becyn cymorth rhad ac am ddim i gyrchu'r daflen waith, a chyflwynwch eich ceisiadau ar dudalen gartref y gystadleuaeth.

Cyflwynwch eich ceisiadau

Gwobrau

Mae chwe chategori a bydd un enillydd ymhob categori yn ennill:

  • Pecyn gwobrau Arwyr Rhifau. Bydd hwn yn mynd i feithrinfa, ysgol neu grŵp cymunedol/ieuenctid o ddewis yr enillydd. Bydd pob pecyn gwobrau’n cynnwys yr holl gemau, llyfrau ac adnoddau byddi di eu hangen i wneud i bawb yn dy gymuned deimlo fel Arwr Rhifau!
  • Taleb anrheg gwerth £50 a thystysgrif i’r plentyn a greodd y cais a enillodd.

Bydd y tri a ddaeth yn ail ym mhob categori’n ennill:

  • Taleb anrheg gwerth £20 a thystysgrif i’r plentyn a greodd y cais.

Y categorïau ar gyfer cymryd rhan yw:

  • Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar:​ Yn agored i bob plentyn 3-5
  • Cynradd A:​ Cymru/Lloegr Bl1, Bl2​ | Iwerddon Bl2, Bl3​ | Yr Alban P2, P3
  • Cynradd B:​ Cymru/Lloegr Bl3, Bl4​ | Iwerddon Bl4, Bl5​ | Yr Alban P4, P5
  • Cynradd C:​ Cymru/Lloegr Bl5, Bl6​ | Iwerddon Bl6, Bl7 | Yr Alban P6, P7
  • Secondary A:​ Cymru/Lloegr Bl7, Bl8​ | Iwerddon Bl8, Bl9​ | Yr Alban S1, S2
  • AAAA (SEND)/CAIG (EHCP) Yn agored i bob plentyn sy’n derbyn cymorth AAA neu CAIG (cynllun addysg, iechyd a gofal). Mae croeso i bob plentyn gystadlu yn ei gategori oedran perthnasol, ond gall y rhai sy’n derbyn cymorth AAA neu CAIG ddewis i gystadlu o dan y categori hwn yn lle hynny. Mae’r pecyn gwobrau ar gyfer y categori AAAA/CAIG yn addas i amrywiaeth o oedrannau a lefelau, ac mae’n cynnwys taleb i’r derbynnydd ei defnyddio ar adnoddau o’i ddewis.

Meini prawf ennill

Bydd Bobby Seagull yn dewis y cais sy’n ennill yn seiliedig ar:

  1. Y llun mwyaf dychmygus, yn dangos ymdrech glew
  2. Y defnyddiau mwyaf creadigol o rifau
Llysgennad Rhifedd Cenedlaethol a dyfarnwr y gystadleuaeth, Bobby Seagull

Sut i gymryd rhan

  1. Llwytha i lawr daflen y Gystadleuaeth Arwyr Rhifau neu cymera ddarn o bapur, a darllena’r Amodau a’r Telerau
  2. Crëwch lun yn dangos ac yn dweud wrthym sut y mae pobl yn defnyddio rhifau yn eich cymdogaeth, eich clwb neu eich cymuned.
  3. Dyweda wrthym ni sut byddi di’n defnyddio rhifau yn dy swydd neu hobi ddelfrydol
  4. Paid ag anghofio ychwanegu dy enw cyntaf, llythyren gyntaf dy enw olaf a dy oed
  5. Gofynna i oedolyn i lwytho dy lun di i fyny drwy ein ffurflen ar-lein, cyn 23:59 ar 11 Mehefin 2025
  6. Os byddi di’n ennill, byddwn ni’n cysylltu â dy oedolyn di cyn 1 Gorffennaf 2025