News
Adnoddau Cymraeg newydd ar gyfer National Numeracy Day
30 Apr 2026
View this page in English | Gweld y tudalen hon yn Saesneg
Mae National Numeracy Day yn dychwelyd ar 20 Mai, ac eleni rydyn ni’n dod â phobl ynghyd ar draws ysgolion, gweithleoedd a chymdogaethau gyda'n thema newydd sbon, ‘Rhifo yn y Gymuned’. Rydyn ni'n dathlu’r ffordd y byddwn i gyd yn defnyddio rhifau i gefnogi ein gilydd yn ein bywydau beunyddiol.
Gweithgareddau'r Pecyn Cymorth Mathemateg i'r Teulu
Rydyn ni wedi cyfieithu detholiad o weithgareddau ein Pecyn Cymorth Mathemateg i’r Teulu, sydd wedi'u teilwra i daflu goleuni ar fathemateg yn ein cymunedau. Gall ysgolion neu deuluoedd ddefnyddio'r gweithgareddau mathemateg byr, hwyliog hyn. Maen nhw’n helpu ysgolion i wneud rhieni a gofalwyr yn rhan o ddysgu mathemateg eu plant – ac yn helpu rhieni a gofalwyr i roi hwb i hyder eu plant gyda rhifau. Does dim angen unrhyw wybodaeth nac offer mathemateg arbennig ar deuluoedd i fwynhau'r gweithgareddau Mathemateg i’r Teulu. Gall plant dynnu lluniau, ysgrifennu cyfrifiadau, tynnu ffotograffau neu greu diagramau yn eu hatebion. Mae creadigrwydd yn cael ei annog!
Mae yna weithgareddau ar gyfer pob grŵp blwyddyn o 4 i 11 oed.
Cystadleuaeth tynnu llun Arwyr Rhifau
Mae ein cystadleuaeth tynnu llun Arwyr Rhifau yn ôl! Ac eleni rydyn ni'n gofyn y cwestiwn i blant: Sut y mae pobl yn defnyddio rhifau yn eich cymdogaeth, eich clwb neu eich cymuned? Efallai eu bod am dynnu llun o siopwr neu barafeddyg, siarad am ddefnyddio amserlenni bysiau, neu gynilo eu harian poced ar gyfer esgidiau pêl-droed newydd. Hoffem weld a chlywed popeth am y mannau lle maent wedi sylwi ar rifau yn eu bywydau pob dydd o'u cwmpas.
Mae chwe bwndel o wobrau gwerth £1,000+ yr un ar gael i ysgolion, yn ogystal â thalebau i'r unigolion buddugol a'r goreuon o blith yr ail safle.
Y Big Number Natter
Wrth wraidd National Numeracy Day mae'r Big Number Natter, sef gwahoddiad cenedlaethol i gysylltu ag eraill a rhannu sut rydyn ni'n teimlo am rifau. Mae magu hyder wrth drin rhifau yn dechrau drwy gael sgyrsiau agored yn ein cymunedau.
Chi sy’n penderfynu sut i gymryd rhan: gall Number Natters fod yn bum munud neu hanner awr o hyd, mewn grwpiau mawr neu o amgylch bwrdd y gegin. Gellir eu cynnal mewn ysgolion gyda myfyrwyr neu athrawon, neu mewn sefydliadau gyda chydweithwyr a chyd-aelodau tîm. Y nod yn syml yw cael pobl, o bob oedran, i siarad am rifau mewn ffordd sy'n teimlo'n agored, yn gefnogol ac yn ddynol.
Rydyn ni wedi creu cyfres o adnoddau parod i'w defnyddio i’w gwneud yn hawdd cymryd rhan, gan gynnwys canllawiau syml i gynllunio sesiynau, posteri i roi gwybod i bawb beth rydych chi'n ei wneud, a phwyntiau trafod i ddechrau eich sgyrsiau.
Am beth ydych chi’n aros, felly?
Ymunwch â miloedd o bobl ledled y DU a chymryd rhan mewn Diwrnod Rhifedd Cenedlaethol sy'n canolbwyntio ar gymuned. Oherwydd pan awn ati i fagu hyder wrth drin rhifau gyda'n gilydd, mae pawb yn elwa. Cofrestrwch ’nawr i gael gafael ar yr holl weithgareddau.