Skip to main content

News

Y Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd yng Nghymru, blwyddyn ymlaen!

14 Jul 2026

View this page in English | Gweld y tudalen hon yn Saesneg

Mae Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd National Numeracy yn dathlu blwyddyn o weithio yng Nghymru – darganfyddwch sut y gall eich ysgol chi gymryd rhan.

Two school pupils sitting at a table looking happy, one has their arm raised as if to answer a question

Cafodd Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd National Numeracy ei lansio yng Nghymru yn haf 2025, ac ers hynny mae dros 120 o ysgolion cynradd yng Nghymru wedi cael eu recriwtio i’r rhaglen.

Mae’r rhaglen yn gweithio i gynyddu hyder rhieni, gofalwyr a staff ysgolion gyda rhifau er budd iddynt eu hunain, ac er mwyn iddynt allu cefnogi eu plant yn well i ddysgu mathemateg.

Mae hefyd yn anelu at sefydlu dulliau a strategaethau hirhoedlog, a all barhau yn y blynyddoedd sy’n dilyn y rhaglen.

Sut y mae hyn yn cael ei gyflawni?

Trwy fentrau sy’n cynnwys Pecyn Cymorth Mathemateg i'r Teulu a llyfrau lloffion, hyfforddiant Numeracy Champions, gweithdai i staff a rhieni/gofalwyr, y National Numeracy Challenge ac ymweliadau gan wirfoddolwyr corfforaethol, nod y rhaglen yw grymuso rhieni, gofalwyr a staff ysgolion â’r sgiliau a’r hyder i gefnogi dysgu plant mewn mathemateg.

Mae’r rhaglen hefyd yn darparu’r holl hyfforddiant ac adnoddau yn Gymraeg; edrychwch ar rai o adnoddau Cymraeg Diwrnod National Numeracy yma.

A corporate volunteer taking part in a numeracy activity with school pupils

Uchafbwyntiau’r Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd yng Nghymru

Mae uchafbwyntiau’r Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd yng Nghymru hyd yma yn cynnwys, ym mis Ebrill 2025, cael cyllid gan Dysgu, sy’n goruchwylio rhaglen cymorth grant Cwricwlwm i Gymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Yn rhan o raglen cymorth grant Cwricwlwm i Gymru, mae’r dyfarniad wedi galluogi National Numeracy i helpu i feithrin cymunedau ysgolion sy’n hyderus gyda rhifau ar hyd a lled Cymru.

Ym mis Chwefror eleni, ymwelodd Nick Thomas-Symonds, AS Llafur ar gyfer Torfaen, ag Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer i ddathlu cyflwyno’r Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd.

Dywedodd Nick Thomas-Symonds:

“Roedd yn wych ymweld ag Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer i weld y rhaglen Ysgolion a Theuluoedd sy’n cael ei chyflwyno yma yn Nhorfaen.

“Mae’n darparu gwersi pwysig i bobl ifanc i sicrhau bod ganddynt y sgiliau bywyd i fod yn hyderus wrth ddelio â rhifau a chyllid yn y dyfodol.

“Diolch i National Numeracy, Barclays LifeSkills, a Sefydliad Moondance am gydweithio i gyflawni’r rhaglen hon.”

Sut y mae’r Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd yn cefnogi Cwricwlwm i Gymru?

Mae’r Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd hefyd yn cefnogi Cwricwlwm i Gymru, gydag un ysgol yn dweud wrth National Numeracy:

“Trwy’r rhaglen rhifedd, mae’r disgyblion wedi magu mwy o hyder, cydnerthedd a sgiliau datrys problemau trwy iddynt gymhwyso mathemateg mewn cyd-destunau dilys mewn bywyd go iawn. Mae’r dysgwyr wedi amlygu mwy o annibyniaeth, creadigrwydd a pharodrwydd i fynd i’r afael â thasgau heriol.

“Trwy brofiadau dysgu dilys, cydweithredol a phwrpasol, mae’r prosiect rhifedd wedi cefnogi pob un o bedwar diben [Fframwaith y Pedwar Diben] trwy helpu disgyblion i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, yn ddinasyddion moesegol a doeth, ac yn unigolion iach, hyderus.” Ysgol Gynradd San Helen, Abertawe

Beth y mae ysgolion yng Nghymru yn ei feddwl am y Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd?

Pa ffordd well o glywed am lwyddiant y rhaglen na thrwy sylwadau rhai o’r ysgolion eu hunain?

“Mae cymryd rhan yn y Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ein hysgol. Mae wedi helpu i gryfhau proffil rhifedd ar draws yr ysgol, gan hefyd hyrwyddo agwedd gadarnhaol at fathemateg ymhlith disgyblion a theuluoedd, fel ei gilydd. Rydym wedi gweld ymgysylltiad cynyddol ymhlith y disgyblion, gwell trafodaeth fathemategol, a mwy o hyder wrth gymhwyso sgiliau rhifedd ar draws y cwricwlwm. Mae’r rhaglen wedi ategu ein dull ysgol gyfan o wella mathemateg ac wedi cyfrannu at gynyddu cyflawniad lle mae pawb yn teimlo eu bod yn gallu llwyddo mewn mathemateg.” Ysgol Gynradd Brynawel, Caerffili

“Mae disgyblion, athrawon a rhieni wedi cael mynediad at fwy o adnoddau addysgu a dysgu o ansawdd uchel.” Ysgol Gynradd Cwmclydach, Rhondda Cynon Taf

“Mae wedi bod yn wych cael cynifer o weithgareddau ar gyfer y dosbarth meithrin hyd at Flwyddyn 6, ac mae wedi bod yn hyfryd cael yr holl adnoddau yn Gymraeg hefyd.” Ysgol Gymraeg Casnewydd

“Yn gyffredinol, mae’r rhaglen wedi bod yn wych ar gyfer agweddau at fathemateg ac ymgysylltu ymhlith rhieni. Mae mwy o ddisgyblion yn mwynhau heriau mathemateg.” Ysgol Gynradd Nant Y Parc, Caerffili

“Mae’r plant y  fwy parod i roi cynnig ar wahanol weithgareddau, heb ystyried hynny’n waith cartref. Mae mwyafrif y rhieni wedi croesawu’r rhaglen ac yn mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau gyda’u plentyn.” Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Gelliswick

“Mae’r plant wir wedi mwynhau archwilio rhifedd gartref, gan ddefnyddio profiadau bob dydd i wneud mathemateg yn ystyrlon ac yn ddifyr. Maen nhw wedi gweithio ochr yn ochr â’u teuluoedd ac wedi rhannu eu dysgu â’i gilydd. Mae’r plant wedi bod yn llawn cyffro i ddychwelyd eu llyfrau lloffion gwaith cartref, ac wedi edrych ymlaen yn awyddus at gael eu tasg gwaith cartref nesaf.” Ysgol Gynradd Cwm-glas, Abertawe

Sut all fy ysgol i gymryd rhan yn y Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd?

Ledled y DU, mae’r Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd bellach wedi cyrraedd dros 50,000 o ddisgyblion ers ei lansio ym mis Ebrill 2024.

Mae’r rhaglen yn croesawu ymgeiswyr o bob ysgol gynradd yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth hael ein partneriaid yng Nghymru, sy’n cynnwys Barclays LifeSkills, a Dysgu, ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd hefyd yn cefnogi ysgolion ledled y DU, a hynny’n bosibl trwy bartneriaethau â Sefydliad Barratt Redrow, Capital One, Sefydliad Garfield Weston, Kartesia, City of Maths, London Stock Exchange Group, TP ICAP, Sefydliad Llythrennedd Ariannol y DU a Grŵp Bancio Vanquis.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd neu ei heffaith, cysylltwch â schoolsandfamilies@nationalnumeracy.org.uk

Os ydych yn sefydliad corfforaethol sy’n dymuno cael rhagor o wybodaeth am fod yn bartner i National Numeracy a chefnogi ein Rhaglen Ysgolion a Theuluoedd, cysylltwch â partnerships@nationalnumeracy.org.uk