Skip to main content

News

Gweithgareddau newydd yn Gymraeg ar gyfer ysgolion a theuluoedd!

15 May 2025

View this page in English | Gweld y tudalen hon yn Saesneg

Mae National Numeracy Day yn ei ôl ar 21 Mai, ac eleni rydyn ni wedi ehangu ein cyfres o adnoddau Cymraeg, gyda mwy byth o weithgareddau am ddim.

Rydyn ni am i’r DU deimlo mor hyderus gyda rhifau ag y gallwn, trwy gefnogi oedolion a phlant. Ac rydyn ni am i’n cefnogaeth fod mor hygyrch â phosibl.

Welsh resources

Felly, eleni rydyn ni wedi cyfieithu y cyfan o’n Gweithgareddau Mathemateg i’r Teulu  i’r Gymraeg!

Mae’r Gweithgareddau Mathemateg i’r Teulu yn cynnwys dros 230 o weithgareddau hyder mewn plant ysgolion cynradd, ac mae’r holl deulu’n cael eu cynnwys. Mae’n cynnwys pynciau allweddol o’r cwricwlwm mewn senarios go iawn, megis pobi neu arbed arian, ac mae’n annog creadigrwydd!

Trwy weithio â thîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai mae’r holl Weithgareddau Mathemateg i’r Teulu wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys pecynnau grwpiau blynyddoedd ar gyfer y rhai 4-10, gweithgareddau o gwmpas adeiladu meddylfryd cadarnhaol, a thaflenni i rieni a gofalwyr am roi hwb i’w hyder eu hunain a chefnogi plant i ddatblygu agweddau cadarnhaol tuag at fathemateg.

Cofrestrwch nawr i gael yr adnoddauDarganfyddwch fwy am y Gweithgareddau Mathemateg i’r Teulu

Mae’r gystadleuaeth Arwyr Rhifau hefyd ar gael yn Gymraeg

Mae’r gystadleuaeth Arwyr Rhifau yn ei hôl ar gyfer National Numeracy Day 2025 – a gallwch chi nawr gymryd rhan ac ennill! Mae cyfle i ennill chwe pecyn gwobr i ysgolion neu grwpiau ieuenctid, yn ogystal â gwobrau i chwech o blant a 18 sy’n dod yn ail.

Mae’n rhad ac am ddim i gymryd rhan, a does dim gofyniad i godi arian – felly gall pawb gael eu cynnwys!

I gymryd rhan, mae angen i blant greu llun yn dangos i ni sut y byddant yn defnyddio rhifau pan fyddan nhw wedi tyfu i fyny, yn eu swydd delfrydol neu yn eu hobïau.

Cofrestrwch nawr i gael mynediad at y gystadleuaeth

Rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth

Competition winner Alina with her certificate

A gall oedolion ymuno hefyd – Mae’r Big Number Natter yn ei hôl!

Y Big Number Natter yw’r sgwrs genedlaethol gyntaf erioed yn y DU am rifau. Mae gan bawb ei farn am fathemateg, ac mae rhannu profiadau’n gam cyntaf gwych tuag at fagu hyder gyda rhifau. Boed yn dda, yn ddrwg neu’n ddoniol iawn, mae gan bawb stori am rifau!

Trwy gydol mis Mai bydd yr holl wlad yn clebran, ac eleni mae’r actores a seren Loose Women, Denise Welch, yn sicrhau help rhai o’i chyfeillion enwog.

Gyda phosteri, sleidiau a thaflenni syniadau am weithgareddau yn Gymraeg, mae popeth fydd ei angen arnoch i sbarduno sgwrs am rifau, a’r cyfle i newid bywydau er gwell.

Cofrestrwch nawr i gael mynediad at yr adnoddau

Darganfyddwch fwy am y Big Number Natter

BNN poster in Welsh